Mae trafodaeth fer am hyn yn yr archifau – cynigiwyd ‘myfyriwr ymsangol’. Mae gen innau gof i mi weld ‘myfyriwr ymsang’ neu ‘myfyriwr ymsangol’ yn rhywle arall ond rwy’n methu yn fy myw â chofio yn lle. Garmon Garmon Davies Ewrolingo +44 (0) 1656 668603 <http://www.ewrolingo.co.uk> www.ewrolingo.co.uk -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of David Bullock Sent: 19 December 2003 11:04 To: [log in to unmask] Subject: Intercalating students sef myfyrwyr sydd, beth bynnag fo'r rheswm, yn bwrw blwyddyn (neu gyfnod arall) i ffwrdd o'u coleg cartref neu eu prifysgol gartref. Gallan nhw fod yn astudio dros y môr, yn teithio am gyfnod, yn treulio amser ar leoliad mewn ysbyty ac ati. 'Rhyngosodol' yw 'intrecalary' yn y Termiadur Ysgol, ond oes gan y colegau ymadrodd parod?