Print

Print


Beth am 'Swyddog Cydymffurfio Rhyddid Gwybodaeth'? Gellid dweud 'Swyddog Cydymffurfio' sydd dipyn yn fwy naturiol na 'Swyddog Cydymffurfiaeth'.
 
Berwyn
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Garmon Davies
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Berwyn Prys Jones
Sent: Friday, December 19, 2003 10:26 AM
Subject: Freedom of Information Compliance Officer

Wedi methu â dod o hyd i enghreifftiau o’r uchod yn Gymraeg.

 

‘Swyddog Cydymffurfiaeth Rhyddid Gwybodaeth’ yw’r mwyaf cryno yn amlwg. Mae’n swnio braidd yn lletchwith i mi am mai cyfres o enwau ydyw ond alla i ddim meddwl am unrhyw beth gwell heb iddo swnio fel paragraff mewn traethawd hir yn hytrach na theitl swydd, e.e. Swyddog â Chyfrifoldeb am Sicrhau Cydymffurfiaeth â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Oes teitl eisoes yn cael ei arfer neu oes gan rywun awgrym arall?

 

Diolch am unrhyw oleuni.

 

Garmon

 

 

Garmon Davies

Ewrolingo

+44 (0) 1656 668603

www.ewrolingo.co.uk