Beth am 'Swyddog Cydymffurfio Rhyddid Gwybodaeth'? Gellid dweud 'Swyddog Cydymffurfio' sydd dipyn yn fwy naturiol na 'Swyddog Cydymffurfiaeth'. Berwyn ----- Original Message ----- From: Garmon Davies To: Berwyn Prys Jones Sent: Friday, December 19, 2003 10:26 AM Subject: Freedom of Information Compliance Officer Wedi methu â dod o hyd i enghreifftiau o'r uchod yn Gymraeg. 'Swyddog Cydymffurfiaeth Rhyddid Gwybodaeth' yw'r mwyaf cryno yn amlwg. Mae'n swnio braidd yn lletchwith i mi am mai cyfres o enwau ydyw ond alla i ddim meddwl am unrhyw beth gwell heb iddo swnio fel paragraff mewn traethawd hir yn hytrach na theitl swydd, e.e. Swyddog â Chyfrifoldeb am Sicrhau Cydymffurfiaeth â'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Oes teitl eisoes yn cael ei arfer neu oes gan rywun awgrym arall? Diolch am unrhyw oleuni. Garmon Garmon Davies Ewrolingo +44 (0) 1656 668603 www.ewrolingo.co.uk