Wedi methu â dod o hyd i enghreifftiau o’r uchod yn Gymraeg. ‘Swyddog Cydymffurfiaeth Rhyddid Gwybodaeth’ yw’r mwyaf cryno yn amlwg. Mae’n swnio braidd yn lletchwith i mi am mai cyfres o enwau ydyw ond alla i ddim meddwl am unrhyw beth gwell heb iddo swnio fel paragraff mewn traethawd hir yn hytrach na theitl swydd, e.e. Swyddog â Chyfrifoldeb am Sicrhau Cydymffurfiaeth â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Oes teitl eisoes yn cael ei arfer neu oes gan rywun awgrym arall? Diolch am unrhyw oleuni. Garmon Garmon Davies Ewrolingo +44 (0) 1656 668603 <http://www.ewrolingo.co.uk> www.ewrolingo.co.uk