Cytuno bod hyn yn arwyddocaol - ac 'does yr un tafarn efo "church" yn yr enw yno chwaith, cyhyd ag y gallaf weld. Es at y Rhestr ar y we eto, a llwyddo i restru holl dafarndai Cernyw (wel, bron 900 oedd ar y rhestr, beth bynnag), rhai ohonynt efo enwau "quaint" a "twee", a rhywrai, ond llai, efo enwau fel "Pen-y-Morfa". Yn anffodus, fe'u rhestrir yn ol y dref, yn hytrach nag enw'r tafarn, felly mae'n anodd gweld patrwm. A oes gan Tim unrhyw sylwadau cymdeithasol? Ann ----- Original Message ----- From: "David Bullock" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Tuesday, December 09, 2003 11:04 AM Subject: Re: The Eagles > Ydy'r ffaith nad oes enghreifftiau o 'Eagles' yng Nghernyw - lle mae 'eglos' > yn gyffredin mewn enwau lleoedd - yn arwyddocaol? > > Er bod datblygiad y ddwy iaith yn wahanol wrth gwrs, byddai gweld ambell > 'Eagles' yno wedi ategu'r gred bod 'Eagles' yn deillio o 'eglwys'. > > Ydy'r diffyg 'Eagles' yng Nghernyw yn ategu barn Bruce nad oes cysylltiad > rhwng y ddwy ffurf yng Nghymru? > > > > > ----- Original Message ----- > From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]> > To: "David Bullock" <[log in to unmask]> > Sent: Tuesday, December 09, 2003 10:17 AM > Subject: Re: The Eagles > > > Mae'n amlwg y bydd yn rhaid imi fynd i weld fy hun! > > Y mae'r rhestr y des i o hyd iddi ar y we gyda help Sian wedi bod yn > arbennig o ddiddorol, er mae rhaid imi'i gymharu i'r rhestr o Swyddfa'r Post > i weld a yw'n hollol gyflawn. Y peth mwyaf cyffrous yw bod 'na dafarndai > dros Brydain i gyd efo'r gair unigol "Eagle" yn yr enw, ond dim ond yng > Nghymru a Sir Amwythig y ceir y gair lluosog "Eagles". Ym Morgannwg a Gwent > yn unig y ceir y gair "Church". Mae'n siwr y byddai angen ymchilio i hen > ddogfennau i weld pa mor bell yn ol mae'r enwau'n mynd a beth oedd y > sillafiad, ond dw i'n amau bod bywyd yn rhy fyr oni cheir grant ymchwil ... > > Diolch yn fawr am y cyfraniadau hyd yn hyd - os gwelwch chi ragor o > enghreifftiau yn y dyfodol, hoffwn yn fawr gael gwybod. > > Ann > ----- Original Message ----- > From: "Geraint Løvgreen" <[log in to unmask]> > To: <[log in to unmask]> > Sent: Tuesday, December 09, 2003 9:56 AM > Subject: Re: The Eagles > > > > Mae'r "Eagles" yn Gaernarfon ar y ffordd tuag at Eglwys Llanbeblig, ond > ddim > > yn agos ati chwaith (ond hi ydi'r dafarn agosa..... hmmm.....) > > Ar y llaw arall - Ydio ddim yn bosib yn y rhan yma o'r wlad mai cyfeiriad > at > > Eryri ydi'r "Eagles"? > > Geraint > > > > ----- Original Message ----- > > From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]> > > To: <[log in to unmask]> > > Sent: Monday, December 08, 2003 8:29 PM > > Subject: The Eagles > > > > > > > Cwestiwn arall y dylwn i fod wedi'i ofyn, wrth gwrs, yw "A oes 'na > > dafarnadi > > > eraill yn y dref/pentref, ac a ydynt ymhellach o'r eglwys ai peidio?" > > > > > > Ann > > > > > > > > > > > > Message has been scanned by Webshield > > > > > > Message has been scanned by Webshield > > > > > > > > > > Message has been scanned by Webshield > > > Message has been scanned by Webshield > > > Message has been scanned by Webshield