Mae'n amlwg y bydd yn rhaid imi fynd i weld fy hun! Y mae'r rhestr y des i o hyd iddi ar y we gyda help Sian wedi bod yn arbennig o ddiddorol, er mae rhaid imi'i gymharu i'r rhestr o Swyddfa'r Post i weld a yw'n hollol gyflawn. Y peth mwyaf cyffrous yw bod 'na dafarndai dros Brydain i gyd efo'r gair unigol "Eagle" yn yr enw, ond dim ond yng Nghymru a Sir Amwythig y ceir y gair lluosog "Eagles". Ym Morgannwg a Gwent yn unig y ceir y gair "Church". Mae'n siwr y byddai angen ymchilio i hen ddogfennau i weld pa mor bell yn ol mae'r enwau'n mynd a beth oedd y sillafiad, ond dw i'n amau bod bywyd yn rhy fyr oni cheir grant ymchwil ... Diolch yn fawr am y cyfraniadau hyd yn hyd - os gwelwch chi ragor o enghreifftiau yn y dyfodol, hoffwn yn fawr gael gwybod. Ann ----- Original Message ----- From: "Geraint Løvgreen" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Tuesday, December 09, 2003 9:56 AM Subject: Re: The Eagles > Mae'r "Eagles" yn Gaernarfon ar y ffordd tuag at Eglwys Llanbeblig, ond ddim > yn agos ati chwaith (ond hi ydi'r dafarn agosa..... hmmm.....) > Ar y llaw arall - Ydio ddim yn bosib yn y rhan yma o'r wlad mai cyfeiriad at > Eryri ydi'r "Eagles"? > Geraint > > ----- Original Message ----- > From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]> > To: <[log in to unmask]> > Sent: Monday, December 08, 2003 8:29 PM > Subject: The Eagles > > > > Cwestiwn arall y dylwn i fod wedi'i ofyn, wrth gwrs, yw "A oes 'na > dafarnadi > > eraill yn y dref/pentref, ac a ydynt ymhellach o'r eglwys ai peidio?" > > > > Ann > > > > > > > > Message has been scanned by Webshield > > > Message has been scanned by Webshield > > > Message has been scanned by Webshield