Dau gynnig posibl yw "Mae pob anifail yn gydradd" a "Mae pob anifail yn gymrawd i'w gyd-anifeiliaid" (sydd braidd yn glogyrnaidd!) Berwyn ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]> To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]> Sent: Tuesday, November 11, 2003 10:22 AM Subject: all animals are equal A oes ymadroddion Cymraeg eisoes yn cael eu defnyddio am "All animals are equal" ac "All animals are comrades" - o Animal Farm? Os nad oes, beth yw'r ffordd orau o'u dweud? "Mae pob anifail yn gyfartal" ? "Mae anifeiliaid yn gymrodyr i'w gilydd" ? Os felly, rydych chi'n colli'r "pob anifail" - sy'n drueni - ond mae "Mae pob anifail yn gymrawd y naill i'r llall" hyd yn oed yn hirach a llai sloganaidd. Help plis Diolch Siān