Mae'n edrych felly fod y Gazetteer yn gyson yn y ffordd y mae'n sillafu llannerch fel rhan o enw lle, gan gadw'r -nn- bob tro, ond rwy'n cofio clywed Peter Wynn Thomas yn dweud bod sawl enghraifft o anghysondeb yn y Gazetteer, ac na fyddai'r cyfan o'r ffurfiau ynddo o reidrwydd yn cael eu cymeradwyo erbyn hyn, pe bai'r rhestr yn cael ei chyhoeddi o'r newydd. Mewn seminar ar yr orgraff o dan adain y Bwrdd Gwybodau Celtaidd y dywedodd hynny, ac rwy'n credu bod gan y Bwrdd gynllun bryd hynny (rhyw dwy flynedd yn ôl) i fwrw golwg ar yr orgraff i weld a fyddai angen argymell newidiadau. Os yw cysondeb yn bwysig, byddai'n anodd cyfiawnhau rheol i ddisgrifio dyblu n mewn enwau lleoedd a fyddai'n wahanol i'r rheol ar gyfer dyblu n ym mhobman arall. Efallai felly, os yw cynllun y Bwrdd yn dal ar y gweill, y gwelwn ni maes o law eu bod am gysoni sillafiad enwau'r pentrefi hyn â gweddill yr iaith, achos ar hyn o bryd rwy'n credu eu bod nhw'n anghyson â'r rheol sy'n gyfarwydd ym mhobman arall. ----- Original Message ----- From: "Glenys M Roberts" <[log in to unmask]> To: "David Bullock" <[log in to unmask]> Sent: Friday, November 07, 2003 3:01 PM Subject: Re: Pentre'r Rhos Baswn yn tybio mai eu dadl fyddai nad ar yr 'erch' y mae'r acen. Mae '...llannerchrugog" yn cael ei ynganu fel petai'n 'llannerch rugog". Mae'r Gazetteer hefyd yn rhoi dwy 'n' yn Llannerchfydaf" a "Llannerchrochwel", am yr un rheswm mi dybiwn, er na chlywais erioed mo'r rheiny'n cael eu hynganu. Rwy'n cofio darllen dadl rhwng Bedwyr Lewis Jones ynghylch sillafiad "Llannerch-y-medd", a Bedwyr yn cyfiawnhau'r ddwy 'n' yn enw'r lle hwnnw. Ond mi wnaeth awduron y Gazetteer bethau'n haws inni gyda hwnnw, trwy roi'r cyplysnodau yn y gair! ----- Original Message ----- From: "John D Williams" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Friday, November 07, 2003 2:38 PM Subject: Pentre'r Rhos Un n sydd yn llan, ond dyblir yr n ar ôl llafariaid byrion mewn geiriau unsillaf pan ychwanegir sillaf, felly, llannerch, am mai ar ôl yr acen y ceir yr n ddwbl. Yn Rhosllanerchrugog mae'r acen oedd gynt ar yr n yn llannerch wedi symud, ar yr u y mae bellach, felly does dim angen am yr ail n. Os gwyddoch chi'n wahanol Glenys, anfonwch air yn ôl. Does gen i ddim copi o waith y Bwrdd Gwybodaeth Celtaidd yma. Cofion. John.