Un n sydd yn llan, ond dyblir yr n ar ôl llafariaid byrion mewn geiriau unsillaf pan ychwanegir sillaf, felly, llannerch, am mai ar ôl yr acen y ceir yr n ddwbl. Yn Rhosllanerchrugog mae'r acen oedd gynt ar yr n yn llannerch wedi symud, ar yr u y mae bellach, felly does dim angen am yr ail n. Os gwyddoch chi'n wahanol Glenys, anfonwch air yn ôl. Does gen i ddim copi o waith y Bwrdd Gwybodaeth Celtaidd yma. Cofion. John.