Thought for the Day! - yn absenoldeb salwch. Tybed faint o'r cylch a welodd y rhaglen yna ar BBC 1 neithiwr ar hyfforddi swyddogion heddlu i fedru gyrru yn gyflym iawn - i fyny at 140 milltir yr awr, i ddal troseddwyr. Aeth uchel swyddog o Heddlu Gogledd Cymru draw i'r Almaen i weld offer hyfforddi cyfrifiadurol gwerth £3 miliwn, a'i fwriad wedyn oedd cael Heddlu'r Gogledd i sefydlu canolfan dan do debyg yma. Mae cysyniadau Cymreictod a Phrydeindod yn gymhleth tu hwnt wrth gwrs, ond onid oeddech chi, fel fi, yn teimlo rhyw falchder braf fod Heddlu Gogledd Cymru wedi cael lle mor flaenllaw yn y rhaglen - a oedd wedi'r cyfan yn cyrraedd pob rhan o Brydain hyd y gwn i. Mae'n rhyfedd wrth ystyried termau am yr heddlu a fu, mai heddlu Cymru sydd ar y blaen mewn cynifer o ffyrdd. Gyda llaw John, gobeithio fod y cyngerdd yn Neuadd William Aston wedi mynd yn iawn.