Byddwn i'n cytuno mai enw gwneud yw 'Uwchdiroedd Cymru', a rhaid dweud na fydda i byth yn meddwl am y mynyddoedd hynny fel 'Cambrian Mountains', chwaith, wrth yrru drostyn nhw. (Pwy fathodd yr enw 'Cambrian Mountains', tybed?) Efallai mai'r peth gorau fyddai so^n am Bontrhydfendigaid gan ychwanegu 'yng ngogledd Ceredigon' neu 'uwchlaw Tregaron' rhag ofn na wyr y gynulleidfa ble'n union y mae Pontrhydfendigaid. Berwyn ----- Original Message ----- From: Geraint Løvgreen To: Berwyn Prys Jones Sent: Tuesday, November 04, 2003 10:34 PM Subject: Re: Cambrian Mountains Ie, ond dyna mhwynt i - disgrifiad gan rywun o'r tu allan ydio. Pwy, o fewn cyd-destun Cymreig, fase'n deud "mae afon Teifi'n codi ar lethrau gorllewinol Uwchdiroedd Cymru" ?? Ar y map mae'r "Uwchdiroedd" bondigrybwyll ma'n ymestyn o'r de reit i fyny i'r gogledd !! Os wyt ti'n sgwennu o fewn cyd-destun Cymru, dydi hynny ddim yn goleuo neb ynghylch ble mae tarddiad afon Teifi. Gan nad oes gen i wybodaeth fanylach, dwi wedi rhoi "ar y llethrau uwchben Pontrhydfendigaid". Geraint ----- Original Message ----- From: Berwyn Jones To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, November 04, 2003 2:20 PM Subject: Re: Cambrian Mountains 'Uwchdiroedd Cymru' sydd ar fap CBAC. Berwyn ----- Original Message ----- From: Geraint Løvgreen To: Berwyn Prys Jones Sent: Tuesday, November 04, 2003 10:19 AM Subject: Cambrian Mountains Yn amlwg, disgrifiad Sais ydi Cambrian Mountains - mae Afon Teifi'n codi ar lethrau gorllewinol pa fynydd yn Gymraeg? Does na'm pwynt imi ddeud fod yr afon yn codi ar lethrau gorllewinol Mynyddoedd Cymru. Geraint