Print

Print


Pwy sy'n cofio Petri Saloma yn cynrychioli'r Ffindir yng nghystadeuaeth
gyntaf Canwr y Byd yn 1983?  Neb ond y fi, mae'n siwr!  (Ond dyna fo, pwy
sy'n cofio taw Mari Ffion ddaru gynrychioli Cymru yn yr un gystadleuaeth?)
Roedd Petri'n sôn am rhyw ysfa ymysg ei gydwladwyr am foch (soch soch, nid
sws sws) hefyd.  Pobl ffein (ond gwahanol) ar y naw.

-----Original Message-----
From: Saunders, Tim [mailto:[log in to unmask]] 
Sent: 14 November 2003 10:01
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Routeledge's Major Works 'History of Feminism' Series


Yn fy mhrofiad i, mae meteoroleg yn hoff banc trafod gan bobl o'r Ffindir
hefyd.

Tim


-----Original Message-----
From: Garmon Davies [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 14 November 2003 10:03
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Routeledge's Major Works 'History of Feminism' Series


Diolch, John. Os yw'n gysur o gwbl, cafodd Pen-y-bont ei ddal yn nannedd y
storm neithiwr hefyd ac roedd rhyw wali wedi gadael gât ar agor fel ei bod
yn clecian yn ddi-baid drwy'r nos - fe gefais lond bol yn y diwedd a chodi
am 5.45 i ddechrau gweithio! A sôn am obsesiwn pobl Prydain gyda'r tywydd -
rwy'n cofio pan oeddwn yn byw yn yr Almaen am flwyddyn, roedd pobl yno'n
tynnu arnaf o hyd gan ddweud 'Y cwbl mae pobl Prydain yn ei wneud yw trafod
y tywydd' ond wedyn y cwbl yr oedden nhw'n ei drafod yn yr ystafell athrawon
oedd y 'Golfstrom', neu Llif y Gwlff, a'r effaith ar y tywydd yng ngogledd
yr Almaen! 

Garmon

Garmon Davies
Ewrolingo
+44 (0) 1656 668603
www.ewrolingo.co.uk

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of John D Williams
Sent: 14 November 2003 09:44
To: [log in to unmask]
Subject: Routeledge's Major Works 'History of Feminism' Series

Yr hyn yr oeddwn yn ei feddwl, rhag ofn nad oeddwn yn glir, gan ei bod yn
dal yn weddol gynnar a fy mod i'n cymryd oriau lawer i ddeffro yn iawn, oedd
mai 'cyfres Major Works 'History of Feminism' Routeledge' faswn i'n ei roi.

Yn anffodus Garmon, mae'r tywydd yn hollol afiach yma heddiw - rhywbeth
roeddwn yn meddwl amdano wrth gael y car allan y bore'ma - sef ein bod ni,
oherwydd lleoliad Prydain - yn cael tywydd annifyr mor aml.  Mae aer poeth
o'r gorllewin yn codi wrth gyrraedd arfordir gorllewinol Prydain ac yn troi
yn law - AC ETO I GYD - mae'r tywydd yn obsesiwn efo phobl Prydain.  Maen
nhw'n mynegi syndod o hyd ei bod hi'n ddiwrnod gwael! Clywn gwynion yn y
dref hon fel 'Miseable day again in' it?'  Wel ydy siwr!
Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru. 
Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol.  Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig. 
Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad, 
dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda. 
Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig, 
fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif. 
Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.


This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of North Wales Police.
The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged. 
It is intended only for the person or entity named above. 
If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system. 
If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the 
intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying 
of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.