Diolch, John. Os yw'n gysur o gwbl, cafodd Pen-y-bont ei ddal yn nannedd y storm neithiwr hefyd ac roedd rhyw wali wedi gadael gât ar agor fel ei bod yn clecian yn ddi-baid drwy'r nos - fe gefais lond bol yn y diwedd a chodi am 5.45 i ddechrau gweithio! A sôn am obsesiwn pobl Prydain gyda'r tywydd - rwy'n cofio pan oeddwn yn byw yn yr Almaen am flwyddyn, roedd pobl yno'n tynnu arnaf o hyd gan ddweud 'Y cwbl mae pobl Prydain yn ei wneud yw trafod y tywydd' ond wedyn y cwbl yr oedden nhw'n ei drafod yn yr ystafell athrawon oedd y 'Golfstrom', neu Llif y Gwlff, a'r effaith ar y tywydd yng ngogledd yr Almaen! Garmon Garmon Davies Ewrolingo +44 (0) 1656 668603 www.ewrolingo.co.uk -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of John D Williams Sent: 14 November 2003 09:44 To: [log in to unmask] Subject: Routeledge's Major Works 'History of Feminism' Series Yr hyn yr oeddwn yn ei feddwl, rhag ofn nad oeddwn yn glir, gan ei bod yn dal yn weddol gynnar a fy mod i'n cymryd oriau lawer i ddeffro yn iawn, oedd mai 'cyfres Major Works 'History of Feminism' Routeledge' faswn i'n ei roi. Yn anffodus Garmon, mae'r tywydd yn hollol afiach yma heddiw - rhywbeth roeddwn yn meddwl amdano wrth gael y car allan y bore'ma - sef ein bod ni, oherwydd lleoliad Prydain - yn cael tywydd annifyr mor aml. Mae aer poeth o'r gorllewin yn codi wrth gyrraedd arfordir gorllewinol Prydain ac yn troi yn law - AC ETO I GYD - mae'r tywydd yn obsesiwn efo phobl Prydain. Maen nhw'n mynegi syndod o hyd ei bod hi'n ddiwrnod gwael! Clywn gwynion yn y dref hon fel 'Miseable day again in' it?' Wel ydy siwr!