"The National Assembly Government's Sponsor Division" - wedi gweld sawl peth ar y we y gall fod yn cyfeirio at hyn: Adran/Is-adran Nawdd/Noddi. A yw'r ateb swyddogol gan rywun. Gyda llaw, 'dw i wedi gofyn yma o'r blaen am gyngor ynghylch chwilio safle'r Cynulliad - a'r WDA o ran hynny. ('Dw i wedi anfon e-bost at ryw wasanaeth wybodaeth sy' gan y Cynulliad hefyd, ond y cyfan a gefais oedd cydnabyddiaeth o'r neges). Onid oes modd chwilio am *ymadrodd*, fel y mae yn Google, yn lle geiriau. 'Dyw hi ddim yn fawr o help cael rhestr hir o dudalennau lle mae'r geiriau "sponsor" a "divison" yn ymddangos yn rhywle. Diolch, Ann Message has been scanned by Webshield