Non solum placet, sed multum placet et perplacet.
-----Original Message-----
From: David Bullock [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 13 October 2003 12:35
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Eangu

Dau beth bach:
 
Yn gyntaf, gwell inni gadw mewn cof mai adran *Seicoleg* Prifysgol Bangor greodd CySill (nid adran y Gymraeg!).
 
Yn ail, onid Geiriadur Prifysgol Cymru yw'r ffynhonnell awdurdodol priodol i ateb cwestiynau fel hyn?
 
(Cymuned ieithyddol od iawn sy'n troi at eiriadur dwyieithog yn unig i chwilio am awdurdod.  Pwy yn Lloegr fyddai'n troi at y "Shorter English and French Dictionary"  i gael dyfarniad awdurdodol ar sillafiad Saesneg yn hytrach na geiriadur Rhydychen? )
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Arwel Wynn Owen
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">David Bullock
Sent: Monday, October 13, 2003 12:08 PM
Subject: Re: Eangu

 

Mi faswn i'n dilyn Geiriadur yr Academi. Mae CySill yn 'derbyn' llawer o bethau!

 

Arwel