Amser maith yn ol, apeliodd y Brifysgol am gywiriadau i CySill/Cysgair cyn dod a fersiwn newydd allan, ac 'rwyf wedi anfon swmp o gywiriadau o dro i dro. Er y dylai'r fersiwn newydd - a phob math o ychwanegiadau a gwelliannau - fod wedi dod allan ar gyfer yr Eisteddfod eleni, maent yn dal i weithio arno. Dyma'r cyfeiriad i anfon unrhyw sylwadau: Menna Morgan <[log in to unmask]> Ann ----- Original Message ----- From: David Bullock <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Monday, October 13, 2003 12:34 PM Subject: Re: Eangu Dau beth bach: Yn gyntaf, gwell inni gadw mewn cof mai adran *Seicoleg* Prifysgol Bangor greodd CySill (nid adran y Gymraeg!). Yn ail, onid Geiriadur Prifysgol Cymru yw'r ffynhonnell awdurdodol priodol i ateb cwestiynau fel hyn? (Cymuned ieithyddol od iawn sy'n troi at eiriadur dwyieithog yn unig i chwilio am awdurdod. Pwy yn Lloegr fyddai'n troi at y "Shorter English and French Dictionary" i gael dyfarniad awdurdodol ar sillafiad Saesneg yn hytrach na geiriadur Rhydychen? ) ----- Original Message ----- From: Arwel Wynn Owen To: David Bullock Sent: Monday, October 13, 2003 12:08 PM Subject: Re: Eangu Mi faswn i'n dilyn Geiriadur yr Academi. Mae CySill yn 'derbyn' llawer o bethau! Arwel Message has been scanned by Webshield Message has been scanned by Webshield