Print

Print


Yn "Place-Names in Glamorgan" (ISBN 1-898937-57-5) mae gan Gwynedd O Pierce
bishyn am yr enw Pebyll, ar Fynydd Blaengwynfi yng Nghwm Ogwr.

Wrth drafod hwnnw mae'n dweud bod 'pebyll' yn ffurf wrywaidd unigol
reolaidd, yn tarddu o'r Lladin 'papilio' ac mai ffurf newydd yw 'pabell'.

Ond meddai, mae enghreifftiau ar gael lle mae 'pebyll' yn fenywaidd,
"...notably, Cilybebyll where the significance of pebyll is obscure (as
obscure as the true meaning here of the first element, cil)". O ran ystyr y
gair 'pebyll', mae'n dweud y gallai fod yn cyfeirio at "simply a residence
of a temporary nature like a hovel or cot".


----- Original Message -----
From: "Fiona Wells" <[log in to unmask]>
To: "David Bullock" <[log in to unmask]>
Sent: Friday, October 03, 2003 9:26 AM
Subject: Cil-y-bebyll


> Oes gan unrhyw un wybodaeth am darddiad yr enw Cil-y-bebyll yng Nghwm
Tawe,
> os gwelwch yn dda?
> Diolch ymlaen llaw
> Fiona
>
> _________________________________________________________________
> Use MSN Messenger to send music and pics to your friends
> http://www.msn.co.uk/messenger
>