Cyfle i fod yn greadigol! Mae rhaid bod y gair "Plus" yn un trendi. Gwn am Jobcentre (Canolfan Gwaith) a Jobcentre Plus (Canolfan Byd Gwaith), nad yw'n help o gwbl. Yr hyn sydd gennyf yw pedwar cynllun reit debyg, ond bod pob un yn costio mwy na'r un cynt ac yn rhoi mwy o'r un gwasanaethau (nid gwasanaethau gwahanol). Enwua'r cynlluniau yw: Personal Assistant; Personal Assistant Plus; Premier Business a Premier Business Plus. Efallai bod gen i feddwl budr, ond mae "Gwasanaeth Cynorthwy-ydd Personol - a Mwy" yn gwneud imi feddwl am barlwr tylino. Gwerthfawrogwn gynigion am y "plus" ac, o ran hynny, am y "Premier Business". Ann Message has been scanned by Webshield