Diolch i chi i gyd. Rwy'n cofio y byddai'r plant yn darllen am ryw 'Topsy and Tim' ers talwm - ond alla i ddim cofio a oedd y gyfryw Dopsi'n arbennig o fawr chwaith ... ----- Original Message ----- From: Berwyn Jones To: [log in to unmask] Sent: Thursday, September 25, 2003 2:48 PM Subject: Re: Topsy Tyfu/chwyddo'n afreolus/aflywodraethus/yn ddireol/yn chwyddo'n wyllt Berwyn ----- Original Message ----- From: Glenys M Roberts To: Berwyn Prys Jones Sent: Thursday, September 25, 2003 2:29 PM Subject: Topsy Mae gen i frawddeg sy'n sôn am gynllun sy newydd droi'r deg ar hugain oed ... ac sy'n mynd ymlaen i ddweud 'all that prevents it from growing like Topsy are the limitations on its budget'. Oes rhywun yn nabod y Topsy yma? Ac oes rhywun yn nabod ffrind iddi sy'n siarad Cymraeg?