Mae'n debyg bod pob aelod o'r rhestr yn cydymdeimlo â'r awydd i Gymreigio (neu ailgymreigio) ein gwlad ym mhob ffordd, gan gynnwys rhoi enwau Cymraeg ar strydoedd lle mae'r enw swyddogol sydd wedi'i gymeradwyo gan yr awdurdodau yn enw uniaith Saesneg.
 
Mae hyn yn arbennig o wir yn achos enw fel Fagwr Road, oedd mae'n debyg yn cael ei hadnabod *ar lafar* fel Heol y Fagwr ymhell cyn i'r awdurdodau droi y ffurf lafar Gymraeg yn Saesneg ysgrifenedig swyddogol fel Fagwr Road (ond nid ei gyfieithu yn Wall Street sylwer!).
 
*Ond* mae ein trafodaethau blaenorol ni ar enwau strydoedd wedi codi rhesymau ymarferol dros beidio â chreu cyfieithiadau ar gyfer strydoedd yn answyddogol: yn un peth gall beri problemau ymarferol i Swyddfa'r
Post (pwy ddwedodd yn ddiweddar fod yna Heol y Felin a Mill Road yng Nghaerdydd?).
 
Byddwn i'n meddwl bod rhaid cydnabod hanes a derbyn bod enwau fel Fagwr Road wedi'u creu mewn cyfnod pan oedd llai o fri ar y Gymraeg na heddiw a gadael iddyn nhw fod. 
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Alison Reed(Welsh Translator)
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">David Bullock
Sent: Wednesday, September 24, 2003 2:16 PM
Subject: Re: Fagwr Road

Dw i'n byw yn y ddinas ond dw i ddim yn gyfarwydd â'r ffordd yn anffodus.  Byddwn i'n tybio mai'r enw Saesneg yn unig fyddai wrth ochr y stryd ei hun.  Felly, mae'n debyg y gallai'r sawl sy'n ei gyfieithu dewis y cyfieithiad mwyaf priodol yn ei farn ef/hi.  Felly, byddai Ffordd neu Heol yn addas?

 

-----Original Message-----
From: Puw, John [mailto:[log in to unmask]]
Sent: Wednesday, September 24, 2003 2:07 PM
To: [log in to unmask]
Subject: Fagwr Road

 

Ydi'r ffordd uchod yn Abertawe yn cyfieithu i'r Gymraeg - hy Heol Fagwr, FforddFagwr ac ati
Diolch
John

 

John Puw
Uned Gyfieithu/Translation Unit
Est/Ext 6135
e-bost/e-mail "[log in to unmask]"


Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru.
Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig.
Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda.
Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.


This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of North Wales Police.
The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged.
It is intended only for the person or entity nam! ed above.
If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system.
If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the
intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying
of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.