Mae "arbre de décision" ar gael fel ffurf Ffrangeg gyfatebol ar gyfer y goeden benderfynu, yn rhestr termau'r Undeb Ewropeaidd (Eurodicautom), a hefyd "structure arborescente" a "schéma décisionnel" sy ddim yn defnyddio'r gair am goeden. Os oes gennych chi ddigon o afael ar iaith dramor, mae'r rhestr honno'n gallu bod yn handi weithiau drwy awgrymu ffordd o feddwl am derm heb weithio drwy'r Saesneg yn unig bob tro. Ta beth, dyma ble mae hi: http://europa.eu.int/eurodicautom/Controller ----- Original Message ----- From: "Catrin Alun" <[log in to unmask]> To: "David Bullock" <[log in to unmask]> Sent: Wednesday, September 24, 2003 12:15 PM Subject: Re: Incident Decision Tree > Fe ffeindiais Decision Tree yng Ngeirfa Adrannau'r Llywodraeth (Coeden > Benderfyniadau) - ac oes, mae'n rhaid cadw'r Incident i mewn, felly dwi wedi > rhoi Coeden Benderfyniadau Digwyddiadau (ych!). Byddwn yn falch o gael > cynnig gwell! > > Catrin > ----- Original Message ----- > From: "Watt E Mererid YC /SL" <[log in to unmask]> > To: <[log in to unmask]> > Sent: Wednesday, September 24, 2003 12:02 PM > Subject: FW: Incident Decision Tree > > > Hen derm annifyr! Heb gael fawr o ysbrydoliaeth - be am rhywbeth fel > Siart Penderfyniadau - os ydi hi'n bosibl hepgor 'incident'? > Mererid > > -----Original Message----- > From: Catrin Alun [mailto:[log in to unmask]] > Sent: 24 September 2003 10:20 > To: [log in to unmask] > Subject: Incident Decision Tree > > > Cyd-destun: > > The Incident Decision Tree is a decision-making framework for helping > NHS managers deal with staff in a consistent and fair way .... > > Unrhyw awgrymiadau? > > Diolch > Catrin > >