Mae ymateb Annes - a diolch iddi amdano - yn fy atgoffa mai hi, rwy'n meddwl, a anfnonodd neges at y cylch beth amser yn o^l a chynnwys ynddi'r ymadrodd 'am chwyldroadol!'. Fe fues i am sbel wedyn yn ceisio meddwl am gyfieithiadau posibl i'r ebychiad sardonig/hwyliog hwnnw - 'how revolutionary (can you be)!', '(corr,) revolutionary or what?!' neu hyd yn oed 'revolutionary ...!' neu 'there's revolutionary for you!'. Gall 'am le!' gyfleu 'what a place!', wrth gwrs, ond a oes aelodau eraill unrhyw gynigion? (Cewch eich cydnabod yn fy ngeirfa ar wefan CCC pan gaiff hi ei diweddaru...)
 
Diolch!
 
Berwyn