Mae ymateb Annes - a diolch iddi amdano - yn fy
atgoffa mai hi, rwy'n meddwl, a anfnonodd neges at y cylch beth amser yn o^l a
chynnwys ynddi'r ymadrodd 'am chwyldroadol!'. Fe fues i am sbel wedyn yn ceisio
meddwl am gyfieithiadau posibl i'r ebychiad sardonig/hwyliog hwnnw - 'how
revolutionary (can you be)!', '(corr,) revolutionary or what?!' neu hyd yn oed
'revolutionary ...!' neu 'there's revolutionary for you!'. Gall 'am le!' gyfleu
'what a place!', wrth gwrs, ond a oes aelodau eraill unrhyw gynigion? (Cewch eich cydnabod yn fy
ngeirfa ar wefan CCC pan gaiff hi ei diweddaru...)
Diolch!
Berwyn