Ydy preswylydd yn breswylydd preswyl pan fydd yn cysgu'r nos yn ei stafell mewn cartref ond yn breswylydd amhreswyl os yw wedi gorfod mynd i mewn i'r ysbyty (er enghraifft)? Mae rheolau on'd oes sy'n dweud bod rhaid i gartref gadw stafell rhywun iddyn nhw am hyn a hyn o amser tra byddan nhw yn yr ysbyty, a gallwn i feddwl bod y preswylydd bryd hynny yn gallu cael ei ddisgrifio fel preswylydd amhreswyl, achos bod ganddo hawliau dros y stafell ond yn methu â'u harfer am ei fod yn dost pwr dab? ----- Original Message ----- From: "Saunders, Tim" <[log in to unmask]> To: "David Bullock" <[log in to unmask]> Sent: Wednesday, September 17, 2003 4:27 PM Subject: Re: Residential Resident Ar ôl pori ar amryw fyd o wefannau, dyma fi wedi cael yr argraff fod gwahanol fathau o gartrefi i'w cael, sef 'Cartrefi Preswyl', lle mae'r rhai sy'n byw yno yn byw yn gymharol annibynnol, 'Cartrefi Gofal', lle maen nhw'n derbyn gofal personol, a 'Chartrefi Nyrsio', lle mae staff nyrsio yn gweithio gyda'r trigolion. Mae ambell i gartref felly yn cyflenwi mwy nag un o'r dibenion yma. Rhyw amau ydw i bod y fath greaduriaid i'w cael â 'care residents' a 'nursing residents'. 'Preswylydd Preswyl' yn swno'n addawol. Tim Tim Saunders Cyfieithydd / Translator Uned Cyfieithu Cyngor Rhondda Cynon Taf / Rhondda Cynon Taf Council Translation Unit Ty Trevithick Abercynon Rhondda Cynon Taf CF45 4UQ Ffôn +44-(0)-01443-744418 Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Cyngor Rhondda Cynon Taf. Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig. Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad, dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda. Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig, fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif. Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon. This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of Rhondda Cynon Taf Council. The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged. It is intended only for the person or entity named above. If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system. If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful. -----Original Message----- From: John D Williams [mailto:[log in to unmask]] Sent: 17 September 2003 16:11 To: [log in to unmask] Subject: Residential Resident Great minds think alike! meddan nhw. Ie, Berwyn, dyna yn union oedd yn mynd drwy fy meddwl innau. Yr un unig ystyr bosib yw bod y non-residential resident, yn rhywun sy ddim yn cysgu dros nos yno - efallai ei fod yn mynd bob dydd ac yn cysgu yn ei gadair ar ôl cyrraedd! Ond yn ôl ystyr draddodiadol y gair, mae'r geiriad yn - fel dywedest ti - nonsens - a fathwyd gan 'desk jocky' neu 'pencil pusher' yn rhywle! Dim byd tebyg i ni wrth gwrs.