GyrA =
Arolwg (sydd hefyd yn "survey" - os yw'r ddau yn golygu'r union un peth,
yna iawn)
Golwg
gyffredinol fyddwn i'n ddweud hefyd, ond a yw'r term
yn golygu'r un peth? Mae'n swnio fel edrych yn frysiog ar rywbeth neu daro golwg
drosto. Gallai "overview" fod yn astudiaeth fanwl o gyfanwaith hefyd yn fy
marn i. Iawn yn ei le, ond angen bod yn sicr o'r cyd-destun fe
dybiwn.
Rwyf
innau fel Alison wedi cael cyfarwyddyd i ddefnyddio Gorolwg yn y gorffennol -
ond a allai hyn hefyd gyfleu "edrych yn rhy fanwl" ar
rywbeth?
Cefais
hefyd gyfarwyddyd rywdro i ddefnyddio Trosolwg, ac ni allwn weld gormod o'i
le arno ar y pryd, na rwan chwaith.
Rwyf wedi bod yn
defnyddio 'arolwg ar' yn y gorffennol ond heb fod yn gwbl fodlon ar y term bob
amser. Rwyf newydd weld bod y Termiadur Ysgol yn cynnig 'Golwg cyffredinol' am
'overview' ac rwy'n hoff o'r dewis hwn, ond mae 'Golwg gyffredinol' yn swnio'n
well i mi gan mai 'ar yr olwg gyntaf' y byddai rhywun yn ei ddweud mewn
cyd-destun tebyg ac rwyf wastad wedi trin 'golwg' fel enw benywaidd yn y
cyd-destun hwn.
Mae 'golwg' yn 'egb'
yn ôl Y Geiriadur Mawr, yn 'nfm' yn ôl y Geiriadur Cyfoes, yn 'eg' yn ôl y
Termiadur ac yn 'eb' yn ôl GyrA.
Help!!!!!!!
Garmon
Garmon
Davies
Ewrolingo
(2+44
(0)1656 668 603
Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru.
Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig.
Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda.
Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.
This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of North Wales Police.
The information contained in this communication is confidential. It may be legally priv
ileged.
It is intended only for the person or entity named above.
If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system.
If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the
intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying
of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.