----- Original Message -----
Sent: Monday, September 15, 2003 10:50
AM
Subject: Re: arsylwi
Er 'mod i'n hepgor yr ail 'ar', fe sylwais
arno yng ngwaith cyfieithwyr eraill. I 'nghlust i, mae'n swnio'n drwsgl, ond
mae hi newydd fy nharo na fydden ni ddim yn dweud 'arnofio wyneb y dw^r'
- 'arnofio ar wyneb y dw^r' fyddai'r ymadrodd naturiol ... Hyd yn oed wedyn,
rwy'n dal i feddwl nad oes angen yr ail 'ar' ar o^l 'arsylwi'. Mae'n anodd bod
yn gyson gan nad yw iaith - mwy na phobl - bob amser yn gyson!
Berwyn
----- Original Message -----
Sent: Monday, September 15, 2003 10:30
AM
Subject: arsylwi
Term sydd wedi ei fathu ers blynyddoedd bellach
am 'observe', gan nad oedd 'sylwi ar' yn gwneud y tro'n hollol. E.e.
pan fydd athro dan hyfforddiant yn mynd i mewn i wers i weld sut mae
athrawes brofiadol yn dysgu, neu pan fydd arolygwr yn ymweld â
gwersi.
Y cwestiwn sy gen i yw - fyddwch chi'n rhoi ail
'ar'? H.y. ai 'arsylwi gwersi' neu 'arsylwi ar wersi' sy'n mynd â
hi? Gofynnais i google ac roedd y ddau gofnod cyntaf yn croes-ddweud ei
gilydd (yr un ffynhonnell hefyd!) - 'Taflen Arsylwi ar Addysgu' ac 'Arsylwi
Gwersi Ieithoedd Modern'.
Beth yw'r
farn?