Rhywbeth i chi chwarae efo fo- Polisi 20 tudalen am hawliau i absenoldeb mamolaeth/tadolaeth/mabwysiad yw'r broblem. Dwi wedi gorffen ei gyfieithu ond wrth ei brawf-ddarllen yn gweld pob math o broblemau wrth geisio anelu at gysondeb. Mae'r gair 'employee' yn codi o hyd ac o hyd, lot o weithiau wrth gyfeirio at y ferch sy'n disgwyl. Mae'n anodd dilyn synnwyr y peth wrth ddarllen am y cyflogai a'i phlentyn. Ond dydy cyfeirio at ferch fel y cyflogai a'i blentyn ddim yn helpu chwaith - hynny yw, treiglo am mai enw unigol gwrywyaidd yw cyflogai. Cwyd problem debyg wrth gyfeirio at gathod. Dyweder bod gan rywun gath - enw unigol benywaidd - o'r enw Twm - hi, fo ?? Syniadau?