Mae'n dibynnu beth yw'r gorchymyn, achos mae aros a
stopio yn ddau beth gwahanol yng nghyfraith y
ffordd fawr rwy'n credu.
Sdim copi o Reolau'r Ffordd Fawr wrth law, ond
rwy'n credu mai "Stop" sydd ar yr arwyddion lle mae'n ofynnol ichi ddod â'ch
cerbyd i stop - er enghraifft wrth gyffordd T â llinell wen ddwbl o'ch blaen.
"Aros" fyddech chi'n weld ar arwyddion yn dweud
faint o amser gewch chi i dynnu mewn wrth ymyl y ffordd er mwyn i'r plant bigo
mewn i'r siop losin neu rywbeth.
----- Original Message -----
Sent: Wednesday, August 20, 2003 4:25
PM
Subject: Arwyddion ffordd
Oes rhywun wedi sylwi ai "aros" ynte "stop" a
ddefnyddir?
Diolch yn
fawr.