Sori i ddod nol yn rhy hwyr ar gyfer y cyfieithiad, ond dwi newydd gofio. Sirat bwrlwm oedden ni'n ei ddefnyddio yn yr ysgol bob tro. Elen -----Original Message----- From: John D Williams [mailto:[log in to unmask]] Sent: 12 August 2003 13:20 To: [log in to unmask] Subject: Spider Gram Gan dorri ar y distawrwydd llethol- roedd y gair spidergram - fel un gair dwi'n meddwl, gan ddilyn geiriau fel anagram, epigram, monogram, telegram, - yn boblogaidd mewn Mathemateg ar ddiwedd yr 80au ac ar ddechrau'r 90au. Fedra i ddim dod o hyd iddo yn unlle ond dwi yn cofio gofyn i rai o'r athrawon ar y pryd beth oedd y ffurf Gymraeg, a fedra i ddim cofio. Yn anffodus does neb yma i helpu heddiw a hyd y gwelaf, dydy o ddim mewn geiriadur chwaith. Os nad yw'n cael ei ddefnyddio erbyn hyn, mae'n rhaid bod term arall, a siāp arall, wedi ei ddisodli - oni wyr rhywun yn wahanol.