Diolch am ofyn, Dafydd - mae'r un peth yn dan ar fy nghroen i byth a hefyd. Pan ddigwydd y peth oddi mewn i destun yn aml iawn fyddai'n sgwennu'r peth yn llawn (canrifoedd a ballu, ar wahan i'r 18fed lle na dydi'r broblem ddim yn codi). Ond dro arall, mae gofyn i'r peth fod yn gryno ac yn sgut. Run fath hefo oedranna - pan fydd hi'n mynd yn fatar o'r arddega fydda i'n hepgor y blwydd/mlwydd/flwydd a jyst yn rhoi 'oed' Ond mi fasa'n dda gin i gael barn ar y fed'au ayyb - pan wela i 17fed be sy'n dod i mehn i ydi rhywun yn deud udeg seithfed sydd i mi'n wrthun, ond o roi eg pan fo'r peth (y ganrif ne beth bynnag) yn dod wedyn mae rhywun yn gorfod rhyw feddwl tu ol ymlaen a rhoi'r eg yng nghanol y rhif yn feddyliol. Twt, dwi'n mynd i rwdlan rwan, mae hi'n mynd yn hwyr. Diolch, gyda Dafydd, am heeeeeeelp. Annes