Maddeuwch i mi a plis peidiwch a rhoi drwg i mi am gam--defnyddio'r cylch ond dyma'r bobol mwya gwreiddiol a deallus y galla i ofyn eu barn nhw (crawl, crawl, grovel, grovel). Dwi'n meddwl cael parthenw ar gyfer ebost fel y medra i newid ISP pan lecia i heb drafferth. Ac isio rhywbeth bachog. Ddim isio defnyddio enw lle gan na dydw i ddim yn teimlo bod gen i'r hawl i neud hynny. Meddwl am ddefnyddio enw un o'r cathod ond mae Sound of Eigg yn enw lle; mae Pussy Nancy yn swnio braidd yn bornograffig; mae Elvis yn mynd i nghysylltu i a gwefannau Elvis Presley, ac mae Sylvester yn mynd i nghysylltu i a gwefannau am Sylvester Stallone & Sylvester McCoy. Felly dyma chwilio am rywbeth oedd ag awgrym o ngwaith i ac o f'enw i. Beth am Trosianna? Y swydd + yr enw rydw i'n ei arfer fwya'r dyddia yma. Ac mae'n swnio fel gair, ac yn swnio fel rhyw bentre yn yr Eidal, fy hoff wlad i. Faswn i'n gwerthfawrogi eich barn, neu unrhyw syniada gwell. Diolch yn fawr ymlaen llaw. Annes