Diolch am yr holl sylwadau. Gallwn ddilyn John Davies, felly, a rhoi Paviland, ond mae'n drueni peidio â defnyddio'r enw Cymraeg gan fod un ar gael. Petai golygydd y cyhoeddiad yn gallu caniatáu'r lle, yr ateb mae'n siw^r fyddai rhoi'r Gymraeg a'r enw cyfarwydd hefyd.
Goat's Hole Cave, Paviland (Rhossili, Gower) - Ogof yr Afr, Pen-y-fai/Paviland (Rhosili, Gw^yr)
Yr unig beth sydd ar goll yw'r cod post! O, ac enw'r dyn ifanc druan yr oedd ei esgyrn wedi eu paentio'n goch.
Glenys