Ysgrifennodd Saunders, Tim: > Fe allai hyn fod yn broblem, gan fod hawlfraint gan yr Hormel Foods > Corporation ar y gair 'Spam'. Ar hyn o bryd, maent yn mynd â chwmni > SpamArrest i gyfraith am dorhawlfraint, achos a gollant yn ôl pob tebyg gan > nad yw'r cwmni meddalwedd o Seattle yn ceisio gwerthu cig tun. > > Mae'n ddigon teg - ac yn gyrfeithiol ddiogelach, mae'n debyg - i gadw'r > sillafiad cysefin ar gyfer cynnyrch arbennig Hormel, ond y gwrthwyneb sy'n > wir parthed 'sbam' mewn ystyr drosiadol. > > Sbo. > > Tim > > -----Original Message----- > From: John D Williams > [mailto:[log in to unmask]] > Sent: 31 July 2003 10:02 > To: [log in to unmask] > Subject: Spam > > > O edrych yn y Geiriadur Mawr o dan S ac wedyn o dan Ys, ychydig iawn > iawn o eriau sy'n dechrau gyda Sp. Sb fyddai'n dilyn yr afer yn Gymraeg > dwi'n credu, ond wedyn, os mai enw priod o ryw fath yw Spam, oni ddylid > ei adael fel y mae? Mae'n bosib mai newid y sillafiad fyddai orau, nid yn unig oherwydd tueddiadau'r orgraff sydd ohoni, ond hefyd fel y bydd yr enw i'w weld yn wahanol - mae'n debyg fod yn rhaid ail-enwi'r cymeriad cartwn Top Cat yn Boss cat pan ddaeth i Brydain gyntaf oherwydd bod gan wneuthurwyr bwyd tun i gathod hawlfraint ym Mhrydain ar yr enw Top Cat!!! Helen -- H.K.Smith (Helen) [log in to unmask] (Cyfieithydd/Translator) [log in to unmask] * * * * * * * * * Cathod/Cats * * Pianos * * *