Print

Print


Un pwynt arall: er bod ymadroddion fel 'joined-up' yn ffasiynol ac yn rhyw led "dechnegol", maen nhw'n rhy gyffredinol i'r un eirfa o dermau technegol eu cynnwys. Rhan o gymwynas fawr Geiriadur yr Academi yw bod y golygyddion wedi gwneud cyfraniad arwrol at lenwi'r bwlch rhwng termau technegol a geiriau cyffredin - a rhan o ddiben fy ngeirfa i yw llenwi rhagor ar y bwlch hwnnw. (Cofiwch fod croeso i chi ychwanegu'ch cynigion chi at fy rhestr i.)
 
Bydd fersiwn helaethach o'r eirfa i'w gweld ar wefan y Gymdeithas cyn bo hir iawn (gobeithio!).
 
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Pennawd Cyf.
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Berwyn Prys Jones
Sent: Tuesday, July 01, 2003 11:48 AM
Subject: Joined up thinking

Yng ngeirfa Berwyn Prys Jones, "llywodraeth cydgysylltiedig", "llywodraethu'n gydgysylltiedig", "llywodraethu cydgysylltiedig" yw "joined up government".  Felly ai "meddwl cydgysylltiedig" (os mai enw sydd yma) a fyddai'n addas?