Os oedd yna afr o gwbl! Yn Goat Street, Hwlffordd, dwi'n byw, a phan oedd swyddfa eisteddfod Tyddewi yma, fe fuon nhw'n defnyddio Stryd yr Afr yn eu cyfeiriad. Ond llygriad ar yr hen enw - Gate Street - yw'r enw cyfoes, a chwbl anhanesyddol felly oedd cynnig y steddfod. ----- Original Message ----- From: Glenys M Roberts To: David Bullock Sent: Tuesday, July 01, 2003 4:28 PM Subject: Re: Goat's Hole Cave Mi faswn i'n hoffi gwybod beth oedd rhan yr afr yn hyn i gyd! ----- Original Message ----- From: Berwyn Jones To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, July 01, 2003 1:57 PM Subject: Re: Goat's Hole Cave I'r gwrthwyneb. Dywed John Davies taw'r gred i ddechrau oedd taw menyw oedd hi ond taw esgyrn dyn oedd yno mewn gwirionedd. (Olion plwm yn y graig a roes y lliw coch i'w esgyrn). Berwyn ----- Original Message ----- From: Kenneth Owen To: Berwyn Prys Jones Sent: Tuesday, July 01, 2003 1:20 PM Subject: Re: Goat's Hole Cave Yn ôl John Davies, dynes oedd y dyn ifanc ("Dynes Goch")! Ken Owen Marian-glas ----- Original Message ----- From: Glenys M Roberts To: Ken Owen Sent: 01 July 2003 12:53 Subject: Goat's Hole Cave Diolch am yr holl sylwadau. Gallwn ddilyn John Davies, felly, a rhoi Paviland, ond mae'n drueni peidio â defnyddio'r enw Cymraeg gan fod un ar gael. Petai golygydd y cyhoeddiad yn gallu caniatáu'r lle, yr ateb mae'n siw^r fyddai rhoi'r Gymraeg a'r enw cyfarwydd hefyd. Goat's Hole Cave, Paviland (Rhossili, Gower) - Ogof yr Afr, Pen-y-fai/Paviland (Rhosili, Gw^yr) Yr unig beth sydd ar goll yw'r cod post! O, ac enw'r dyn ifanc druan yr oedd ei esgyrn wedi eu paentio'n goch. Glenys