O'r diwedd 'rwyf wedi prynu fy nghopi o eiriadur newydd y gyfraith sy'n rhoi: murder - llofruddiaeth, homicide - lladdiad, gyda'r un gair ar gyfer "killing" hefyd, a rhybudd i beidio a^ defnyddio "dynladdiad", gan mai "manslaughter" yw hwnnw, ac yn drosedd. Gan fod 'na "culpable homicide" a "justifiable homicide", cymeraf nad yw (!) yn golygu mwy na lladd rhywun. Mae Robin Lewis yn ychwanegu: "... yn UDA, defnyddir y gair "homicide" yn aml fel pe bai ond y dim yn gyfystyr a^ "llofruddiaeth"' . Mae'n rhaid ein bod ni wedi bod yn gwylio gormod o Kojak, Columbo ayb. Ann