Unrhyw awgrymiadau am 'budd-ddeiliaid' os gwelwch yn dda? - 'casglwyd barn y budd-ddeiliaid oedd yn rhan o'r trefniant drwy gyfres o gyfweliadau anffurfiol.' Diolch. -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Tomos Sent: 11 July 2003 14:07 To: [log in to unmask] Subject: Re: dynamically updateable web pages Ysgrifennodd, Meinir Huws wrote: > > tudalennau gwe y gellir eu diweddaru'n ddynamig - neu a wyr unrhyw un > am rywbeth mwy bachog (rhaid cyfadde' nad wy'n deall ystyr > 'dynamically' yn y cyswllt yma, a methais a chael unrhyw oleuni o > chwilio'r We). Gwir ystyr 'dynamic' yn y cyd-destun yma yw fod cynnwys neu arddull tudalen yn gallu newid heb orfod cysylltu a'r gweinydd. Un enghraifft syml yw rhestr o newyddion diweddaraf sy'n sgrolio fyny'r sgrin gan ddangos un pennawd ar y tro. Ond y term mwy adnabyddus am hynny yw DHTML a dwi'n gwybod fod nifer o bobl yn defnyddio'r jargon 'dynamic update' i olygu unrhyw dudalen lle mae'r cynnwys yn cael ei greu ar-y-pryd, lle mae'r wybodaeth yn dod o gronfa ddata. Felly dwi'n credu fod yr awgrym yn gywir ond efallai fod 'tudalennau gwe wedi ei diweddaru'n ddeinamig' yn well? -- Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>