Gan fod y gair 'hygyrch' yn cyfleu'r ystyr yn berffaith yn yr ymadrodd hwn, onid oes dadl am ddefnyddio'r gair a'i wneud yn fwy cyfarwydd i'r cyhoedd? Ruth -----Original Message----- From: Ann Corkett [mailto:[log in to unmask]] Sent: 30 June 2003 17:56 To: [log in to unmask] Subject: Re: Accessible Natural Greenspace Mae Bruce wedi tynnu fy sylw at y ffaith bod "gwyrddfan" a "gwyrddle" mewn bod, y cyntaf yn fwy o oasis, a'r ail yn "village green" fel arfer. Felly "gwyrddfan" amdani, gan ddefnyddio "gwyrddfannau" yn lle "greenspace" lle mae'r cyd-destun yn gofyn am hynny, a defnyddio "glaswelltir" yn lle "glastir" ar gyfer "grassland" i wahaniaethu'n fwy pendant. Mae "cyfleus" yn bosibilrwydd arall ar gyfer "accessible". Gwerthfawrogir unrhyw gynigion. Ann