Gwych! Diolch yn fawr iawn Dafydd, am yr eglurhad yn ogystal a'r awgrym ar gyfer y cyfieithiad. Meinir ____________________________________________ Meinir Huws Uned Cefnogi Dwyieithrwydd / Bilingualism Support Unit ebost/email: [log in to unmask] Ffôn/Tel: 01745 586246 Ffacs/Fax: 01745 586259 Dafydd Tomos <[log in to unmask]> Sent by: Discussion of To: [log in to unmask] Welsh language technical cc: terminology and vocabulary Subject: Re: dynamically updateable web pages <WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCM AIL.AC.UK> 11/07/2003 14:06 Please respond to Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary Ysgrifennodd, Meinir Huws wrote: > > tudalennau gwe y gellir eu diweddaru'n ddynamig - neu a wyr unrhyw un am > rywbeth mwy bachog (rhaid cyfadde' nad wy'n deall ystyr 'dynamically' yn y > cyswllt yma, a methais a chael unrhyw oleuni o chwilio'r We). Gwir ystyr 'dynamic' yn y cyd-destun yma yw fod cynnwys neu arddull tudalen yn gallu newid heb orfod cysylltu a'r gweinydd. Un enghraifft syml yw rhestr o newyddion diweddaraf sy'n sgrolio fyny'r sgrin gan ddangos un pennawd ar y tro. Ond y term mwy adnabyddus am hynny yw DHTML a dwi'n gwybod fod nifer o bobl yn defnyddio'r jargon 'dynamic update' i olygu unrhyw dudalen lle mae'r cynnwys yn cael ei greu ar-y-pryd, lle mae'r wybodaeth yn dod o gronfa ddata. Felly dwi'n credu fod yr awgrym yn gywir ond efallai fod 'tudalennau gwe wedi ei diweddaru'n ddeinamig' yn well? -- Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>