Lleiafrifoedd, oni bai mai o un lleiafrif maen nhw'n dod. Ydy'r cyd-destun yn rhoi'r ateb rywsut?
Gwem
-----Original Message-----
From: Catrin Alun [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 11 June 2003 10:39
To: [log in to unmask]
Subject: ethnic minority pupils

Disgyblion o leiafrifoedd ethnig neu ddisgyblion o leiafrif ethnig?  Y cyntaf sy'n dod i flaen y meddwl, ond dwi wedi dechrau pendroni rwan ....!
 
Hefyd, oes rhywun yn gwybod am unrhyw ddeunydd Cymraeg ar y testun uchod?
 
Diolch
Catrin
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Berwyn Jones
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, June 11, 2003 9:49 AM
Subject: Re: real

Anghofiais ychwanegu un cyfieithiad bach defnyddiol y des i ar ei draws yn  ddiweddar, sef 'real people' = 'pobl o gig a gwaed'. Yn anffodus, fyddai'r cyfieithiad hwnnw ddim yn taro deuddeg yn achos cewynnau ...
 
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Glenys M Roberts
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Berwyn Prys Jones
Sent: Wednesday, June 11, 2003 9:19 AM
Subject: real

Pam rydan ni'n cael trafferth efo'r gair yma yn Gymraeg?  Enw'r ddogfen sy gen i heddiw ydy 'Real Nappies' (digon o amrywiaeth yn y gwaith yma!).  Yn cael fy nhemptio i roi 'Cewynnau Go Iawn' - ond pobl y De fydd y gynulleidfa ar y cyfan, felly rydw i'n amau na fyddai 'go iawn' yn dderbyniol.  Dewis arall fyddai enwi'r defnydd, ond hynny'n beryglus achos dydw i ddim yn hollol siw^r beth fyddai hwnnw (cotwm?). Dydy 'gwir', 'gwirioneddol', 'iawn' ddim yn taro deuddeg rywsut. 'Cewynnau o'r iawn ryw' - mm, braidd yn rhy ffurfiol a hen ffasiwn.  Unrhyw awgrymiadau?  Efallai bod 'na rieni ifainc yn eich plith sy'n ymgodymu â'r broblem o ddydd i ddydd? 
Diolch y.ll.
Glenys