----- Original Message -----
Sent: Wednesday, June 11, 2003 9:49
AM
Subject: Re: real
Anghofiais ychwanegu un cyfieithiad bach
defnyddiol y des i ar ei draws yn ddiweddar, sef 'real people' = 'pobl
o gig a gwaed'. Yn anffodus, fyddai'r cyfieithiad hwnnw ddim yn taro deuddeg
yn achos cewynnau ...
Berwyn
----- Original Message -----
Sent: Wednesday, June 11, 2003 9:19
AM
Subject: real
Pam rydan ni'n cael trafferth efo'r gair yma
yn Gymraeg? Enw'r ddogfen sy gen i heddiw ydy 'Real Nappies' (digon
o amrywiaeth yn y gwaith yma!). Yn cael fy nhemptio i roi 'Cewynnau
Go Iawn' - ond pobl y De fydd y gynulleidfa ar y cyfan, felly rydw i'n
amau na fyddai 'go iawn' yn dderbyniol. Dewis arall fyddai enwi'r
defnydd, ond hynny'n beryglus achos dydw i ddim yn hollol siw^r beth
fyddai hwnnw (cotwm?). Dydy 'gwir', 'gwirioneddol', 'iawn' ddim yn
taro deuddeg rywsut. 'Cewynnau o'r iawn ryw' - mm, braidd yn rhy ffurfiol
a hen ffasiwn. Unrhyw awgrymiadau? Efallai bod 'na rieni
ifainc yn eich plith sy'n ymgodymu â'r broblem o ddydd i ddydd?
Diolch y.ll.
Glenys