-----Original Message-----
From: Garmon Davies [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 04 June 2003 12:21
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Terrorist/anti-terroristRoeddwn ar fin defnyddio’r termau ‘terfysgaeth/terfysgwr’ cyn gweld negeseuon Pennawd a David Bullock – doeddwn i ddim wedi meddwl mor bell â’r angen i gael dau derm ar gyfer ‘rioter’ a ‘terrorist’ ac rwy'n cytuno bod angen dau derm cwbl wahanol oherwydd fel y mae David yn awgrymu mae perygl gwneud llanast ohoni drwy ddefnyddio’r un term. Os defnyddiwn ‘reiatwr’ i olygu ‘rioter’ a ydym hefyd yn ymwrthod yn llwyr â’r gair ‘terfysg’ am ‘riot’ ac yn defnyddio ‘reiat’ er mwyn cael dau air tebyg ynteu a ydym yn derbyn nad oes perthynas rhwng y gair Cymraeg am ‘riot’ a’r gair Cymraeg am ‘rioter’? Fel y mae David yn awgrymu, mae’n drueni Cymreigio term Saesneg i greu ‘reiatwr’ am ‘rioter’ pan ellir defnyddio ‘brawychwr’ am ‘terrorist’ yn lle hynny.
Mae Geiriadur y Gyfraith yn mynd yn gwbl groes i GyrA yn y cyswllt hwn ond byddwn i’n dadlau bod rhesymau GyrA yn rhai mwy dilys – os mai ‘terfysg’ yw ‘riot’ a ‘codi terfysg’ yw ‘to riot’ yna mae’n synhwyrol i feddwl mai ‘terfysgwr’ ddylai ‘rioter’ fod. Mae’n swnio’n rhyfedd iawn i mi ein bod yn dweud “ ‘terfysg’ yw ‘riot’, ‘codi terfysg’ yw ‘to riot’ ond ‘terrorist’ yw ‘terfysgwr’”!! Byddai rhai o bosib yn dadlau bod mwy i weithgarwch ‘terrorists’ na brawychu yn unig ond mae’r un peth yn wir am y term Saesneg.
Os nad ydym yn mynd i ddefnyddio ‘brawychiaeth’ i olygu ‘terrorism’, ym mha gyd-destun y dylem ddefnyddio’r term hwn felly?
Garmon.
Garmon Davies
Ewrolingo
(2+44 (0)1656 668 603
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of David Bullock
Sent: 04 June 2003 12:36
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Terrorist/anti-terrorist
Un o'r meini prawf wrth gymeradwyo termau yw y "dylai pob term gyfateb i un
cysyniad yn unig", (gw
http://www.bangor.ac.uk/hyfforddiant/Cymraeg/hyfforddiant/Termau%20Technegol
.htm).
Nawr fe allech chi ddweud bod gwahaniaeth rhwng 'terfysg' a 'terfysgaeth' -
er bod dim llawer o obaith gyda chi yn fy marn i o gael Mr a Mrs Jones drws
nesa i ymdeimlo â'r gwahaniaeth bach yna, ac mae gan y Gymraeg yr adnoddau i
gael termau ar wahân yn yr achos yma.
Mae'r meini prawf hefyd yn dweud y "dylai [term] fedru cynhyrchu ffurfiau
eraill (enwau, ffurfiau lluosog, berfau, ansoddeiriau)" ac mae arnon ni
angen gwahaniaethu rhwng, dyweder, 'rioter' a 'terrorist' - wnaiff
"terfysgwr" mo'r tro ar gyfer y ddau. Digon hawdd yw meddwl am droseddwr
yng Ngogledd Iwerddon yn cyfaddef gerbron llys barn fel hyn - "I am a
rioter, but no way am I a terrorist m'lud". Cyfieithwch frawddeg felly gyda
*thermau* ac nid gydag aralleiriadau!
Cipolwg ar iaith ar gyfnod penodol yw geiriadur - ac mae'n siwr gen i y
byddai golygyddion Geiriadur y Brifysgol yn falch o gael cyfle i gofnodi
datblygiadau sy'n dangos bod y Cymry cyfoes yn dysgu trin a thrafod
cysyniadau oedd yn ddiarth pan gafodd y cofnodion cynnar eu hysgrifennu. Un
gair y byddai angen iddyn nhw sôn amdano erbyn hyn yw 'cymuned' - does dim
tystiolaeth o hwnnw o gwbl yn Geiriadur y Brifysgol ar hyn o bryd, ond rwy'n
siwr na fyddai neb yn argymell ei wrthod a chadw at y ffurf 'cymundod'!
----- Original Message -----
From: "D.Prys" <[log in to unmask]>
To: "David Bullock" <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, June 04, 2003 11:55 AM
Subject: Re: Terrorist/anti-terrorist
Dw i ddim yn siwr ar ba sail mae Geiriadur yr Academi yn ymwrthod a
'terfysgwr' am 'terrorist' gan fod tystiolaeth gadarn iddo yn yr iaith
(ar wahan i awdurdod S4C!)
Ceir 'terfysgaeth', 'terfysgwr' etc yn y Geiriadur Prifysgol gyda'r
cyfieithiad 'terrorism', 'terrorist', a'r un modd Geiriadur Newydd y
Gyfraith. A dweud y gwir mae hwnnw'n dweud: 'terrorism - terfysgaeth
*but* riot - terfysg / reiat'.
Ar y llaw arall, prin yw'r dystiolaeth i 'brawychiaeth' (dydi e ddim yn
y Geiriadur Prifysgol, er bod 'brawychwr' yno gyda'r cyfieithiad
'terrifier, one who inspires terror' - heb gyfeiriad at 'terrorist').
Wela i ddim o'i le ar gadw'r termau cyfarwydd 'terfysgwr, terfysgaeth'
felly ar gyfer 'terrorist', 'terrorism' ac ati.
Delyth
Ysgrifennodd Garmon Davies:
> Beth yw barn aelodau eraill y cylch trafod hwn am y geiriau uchod. Mae
GyrA
> yn nodi'n unswydd na ddylid defnyddio 'terfysgaeth/gwrthderfysgaeth' am
mai
> 'riot' yw ystyr 'terfysg'. 'Brawychiaeth' a geir yno am 'terrorism'. Serch
> hynny, defnyddir 'terfysgaeth' yn gyson gan y cyfryngau ac felly mae
perygl
> na fyddai 'brawychiaeth' yn gyfarwydd i'r darllenydd. A ddylem dderbyn
felly
> bod 'terfysgaeth' wedi ennill ei blwyf fel term am 'terrorism' oherwydd y
> defnydd gan y cyfryngau ynteu a oes perygl, os dechreuwn ddibynnu ar
> arweiniad y cyfryngau gyda thermau fel hyn, ein bod yn caniatáu i
derminoleg
> y Gymraeg gael ei rheoli gan rai nad ydynt o anghenraid yn arbenigwyr
iaith
> (yn enwedig o ystyried cymaint y mae safon yr iaith a ddefnyddir ar S4C
wedi
> dirywio dros y blynyddoedd diwethaf - yn fy marn i beth bynnag!)?
>
> Garmon.
>
> Garmon Davies
> Ewrolingo
> **+44 (0)1656 668 603
>
>
>
--
D.Prys [log in to unmask]
D.Prys [log in to unmask]