Gan mai fi yw'r unigolyn lleiaf cw^l sy'n byw yn Llanddoged, acyn gwisgo'r sbectol haul rataf un i yrru car yn ddiogel yn hytrach na gwatwar peldroedwyr fydd yn anghof o fewn degawd ac sy'n gwneud y mwyaf o'u henwogrwydd ar hyn o bryd (dyna ddigon am Marc Lloyd Williams a mab Gadaffi), nid oes gennyf bar o "wraparowndiau". Ond, wedi ymchwilio ychydig yng nghylchgronnau f'anwylyd ar ôl dod adre, ymddengys mai par o sbectol sy'n cychwyn boptu i'r "shnozzle" ac sy'n ymestyn o flaen y llygaid ac yna rownd ochr yr wyneb i gyfeiriad y clustiau sydd dan sylw. Hynny yw, mae'r darn canol yn ddigon tebyg mewn elfen i bob par arall o sbectols, ond fod y darn ar ochr yr wyneb yn arbed haul rhag taro'r llygaid o'r ochr - sylwaf nad oes cynnig ar gyfer peripheral vision yn fy nghopi i o GyrA. Mae cynnig Meinir yn un eithaf teg, fe gredwn, ond rhag ofn bod rhywun allan yna sy'n cael ysbrydoliaeth dros y penwythnos! ----- Original Message ----- From: "Meinir Huws" <[log in to unmask]> To: "John Puw" <[log in to unmask]> Sent: Friday, June 20, 2003 3:57 PM Subject: Re: wraparound sunglasses Ai sbectol sy'n gwarchod y llygaid yn well na'r sbectol dywyll arferol ydy hi, h.y. rhag bod golau o'r tu cefn yn cael ei adlewyrchu i'r llygaid wrth daro ar du mewn y sbectol? Os felly, beth am sbectol gwmpasog? Meinir ____________________________________________ Meinir Huws Uned Cefnogi Dwyieithrwydd / Bilingualism Support Unit ebost/email: [log in to unmask] Ffôn/Tel: 01745 586246 Ffacs/Fax: 01745 586259 John D Williams <[log in to unmask] To: [log in to unmask] AM.SCH.UK> cc: Sent by: Discussion of Welsh Subject: wraparound sunglasses language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask] K> 20/06/2003 15:04 Please respond to Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary Dwi ddim yn siwr beth ydyn nhw, ond os mai sunglasses which wrap around the head mewn rhyw ffordd ydyn nhw, oni fyddai rhywbeth syml fel sbectol haul hir yn gwneud yn tro? (See attached file: InterScan_Disclaimer.txt) ---------------------------------------------------------------------------- ---- > Bwriedir y trosglwyddiad post electronig hwn ar gyfer y derbynyddion a enwir > yn unig. Fe all gynnwys gwybodaeth breifat a chyfrinachol. Os ydych > wedi ei dderbyn trwy gamgymeriad ni ddylech gyflawni unrhyw weithred yn > seiliedig arno, na'i gopio na'i ddangos i unrhyw un; ffoniwch ni ar unwaith os > gwelwch yn dda a dychwelyd y gwreiddiol i ni. Nid ydym yn derbyn unrhyw > atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod o ganlyniad i unrhyw feirws > meddalwedd. Eich cyfrifoldeb chi yw cynnal gwiriad feirws fel y bo'r angen > cyn agor unrhyw atodiad a allai fod ynghlwm i'r neges hon. > > This electronic mail transmission is intended for the named recipients only. > It may contain private and confidential information. If this has come to you > in error you must take no action based upon it, nor must you copy it or show > it to anyone; please telephone us immediately and return the original to > us. We cannot accept any liability for any loss or damage sustained as a > result of software viruses. It is your responsibility to carry out such virus > checking as is necessary before opening any attachment which may be > included with this message. >