Mae system sgubo Cyngor Caerdydd yn bur drylwyr. Ges i drafferth unwaith oherwydd gair mewn rhestr ar gyfer arddangosfa artist y flwyddyn - llwybr halio (towpath) - y gair halio oedd yn tramgwyddo - bu'n rhaid i mi gysylltu a nhw ac egluro, er bod y gair yn gallu bod yn 'air drwg', ei fod hefyd yn berffaith ddiniwed mewn rhai cyd-destunau. Dderbynion nhw'n eglurhad a'i dynnu oddi ar y rhestr waharddiedig - ond maen nhw'n sgut ar y naw am unrhyw beth mewn neges neu atodiad, yn gadael iddo fo fynd drwodd ond yn rhoi gwbod i bawb perthnasol ei fod yn anghymeradwy.
 
Annes