Wn i ddim pa beth a ddefnyddir, ond dyma sylw Bruce, ond yn fy ngeiriau: Ym mha wyddor y mae'r brodorion yn ysgrifennu'r enw? Os yn yr wyddor Ladin, mae gennych ddewis o ysgrifennu'r enw yn yr un ddull a^ nhw (ai "Kosovo" yw hwnnw?), neu fel "Cosovo". Os mewn gwyddor arall, nid oes gan y dull Seisnigaidd o gynrychioli'r synau unrhyw statws arbennig o gwbl yn y Gymraeg, a dylid defnyddio "Cosofo". Rhaid treiglo'r enw pa un bynnag, fel petai'n cychwyn ag "C", ac felly cystal byddai ei ysgrifennu ag "C". Ann