Gwn fod rhai pobl - yn ardal Aberystwyth - yn galw pannas yn "moron gwynion" yn hollol naturiol. Siān -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gwen Rice Sent: 16 April 2003 17:36 To: [log in to unmask] Subject: Re: white onions Diolch, Glenys. Dwi'n cytuno o safbwynt 'gwynion' lle y bo 'cawl' hefyd yn y teitl (er na fyddwn yn ei DDWEUD yn sicr). Gwen -----Original Message----- From: Glenys M Roberts [mailto:[log in to unmask]] Sent: 16 April 2003 17:35 To: [log in to unmask] Subject: Re: white onions Mae gwynion yn well yma efallai gan ei fod yn llai amwys - h.y. y winwns (nionod!) sy'n wyn, yn hytrach na'r cawl. Ond rydw i'n meddwl mai mewn ymadroddion 'ffosiledig' y ceir lluosog yr ansoddair gan amlaf erbyn heddiw (ond nid dim ond bwyd, e.e. pobl if(a)inc etc). (Mae llawer o ffurfiau lluosog ansoddeiriau yn cael eu defnyddio fel enwau hefyd, wrth gwrs, e.e. tlodion etc) Erbyn hyn rydw i wedi gweld neges Berwyn - diddorol yw'r gwahaniaeth tafodieithol. Glenys ----- Original Message ----- From: "Gwen Rice" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Wednesday, April 16, 2003 5:13 PM Subject: white onions Tybed oes rhywun yn gwybod a oes rheol / canllawiau ynghylch pryd i roi ffurf luosog ansoddair? Mae Bruce yn nodi, er enghraifft, 'ffa duON' am 'black beans', ac, wrth gwrs, mae 'mwyar duon/cochion' etc yn gyffredin. Ai yn ymwneud ā bwyd mae hyn? Oes unrhyw beth yn bod ar 'winwns gwyn', 'cawl winwns gwyn' etc? A fyddai 'gwynion' yn well ynteu ond yn ddewis arall? Diolch am unrhyw gymorth. Gwen --- Incoming mail is certified Virus Free. Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com). Version: 6.0.467 / Virus Database: 266 - Release Date: 01/04/2003 --- Outgoing mail is certified Virus Free. Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com). Version: 6.0.467 / Virus Database: 266 - Release Date: 01/04/2003