Mae gwynion yn well yma efallai gan ei fod yn llai amwys - h.y. y winwns (nionod!) sy'n wyn, yn hytrach na'r cawl. Ond rydw i'n meddwl mai mewn ymadroddion 'ffosiledig' y ceir lluosog yr ansoddair gan amlaf erbyn heddiw (ond nid dim ond bwyd, e.e. pobl if(a)inc etc). (Mae llawer o ffurfiau lluosog ansoddeiriau yn cael eu defnyddio fel enwau hefyd, wrth gwrs, e.e. tlodion etc) Erbyn hyn rydw i wedi gweld neges Berwyn - diddorol yw'r gwahaniaeth tafodieithol. Glenys ----- Original Message ----- From: "Gwen Rice" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Wednesday, April 16, 2003 5:13 PM Subject: white onions Tybed oes rhywun yn gwybod a oes rheol / canllawiau ynghylch pryd i roi ffurf luosog ansoddair? Mae Bruce yn nodi, er enghraifft, 'ffa duON' am 'black beans', ac, wrth gwrs, mae 'mwyar duon/cochion' etc yn gyffredin. Ai yn ymwneud â bwyd mae hyn? Oes unrhyw beth yn bod ar 'winwns gwyn', 'cawl winwns gwyn' etc? A fyddai 'gwynion' yn well ynteu ond yn ddewis arall? Diolch am unrhyw gymorth. Gwen