Print

Print


Oes. Mae 'na rywbeth yn bendant. Dydi hyn fawr o help, dwi'n gwybod, ond fe
ddes i o hyd i rywbeth tua dair neu bedair blynedd yn o^l. (Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru, yn cyfeirio at 'beacon councils', o bosibl?) Dwi
ddim yn cofio erbyn hyn be oedd o, ond dwi'n weddol sicr nad "enghreifftiol"
oedd o. Mae gen i ryw gof bod eu dogfen yn egluro union ystyr yr ymadrodd,
ond mae'r enghreifftiau sy'n codi wrth chwilio yn Google yn awgrymu mai enw
priod ydi beacon/Beacon, felly naill ai mae 'na ddau fath o 'feacon' neu dwi
wedi camddeall pethau, mae'n amlwg.

Eirlys W




----- Original Message -----
From: "Meg Elis" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, April 30, 2003 6:00 PM
Subject: Beacon


> Mae gen i ddogfen sy'n crybwyll "Beacon School" a "Beacon College" - h.y.,
> nid enw ar ysgol benodol, ond sefydliad a ddewiswyd i roi esiampl oherwydd
> rhyw fath o ragoriaeth. Unrhyw un yn gwybod os oes 'na derm swyddogol?
(Mae'n
> digwydd yn Lloegr yn bennaf, ond yn lledu i Gymru hefyd). Triais
> "enghreifftiol", ond mae'n fwy na hynny.
> Diolch am unrhyw help
>
> Meg
>