Yn ychwanegol at yr hen drafodaeth yma (am fod yr HACCP newydd godi mewn testun sydd gen i yma), mae'n debyg - nid am y tro cyntaf - fod y Saesneg weithiau yn anghyflawn neu'n anghywir. Mae gan gyfreithwyr y Cynulliad ddiffiniad yn "The Import and Export Restrictions (Foot-And-Mouth Disease) (Wales) (No. 7) Regulations 2001" sy'n dweud fel hyn: '"HACCP" means Hazard Analysis at Critical Control Points, which is a system in which the critical points of the manufacturing process have been identified, assessments have been made of the potential risks at those points, and necessary steps have been taken to minimise those risks;' a'r hyn sy'n dal fy llygad i yw'r gair "at". Y dasg i berchnogion safle bwyd, mae'n debyg, yw mynd ati i ddadansoddi'r peryglon sy'n llechu "wrth" y mannau rheoli hynny sy'n dyngedfennol yn y broses o baratoi bwyd. Ydy 'Dadansoddi Peryglon wrth y Mannau (neu 'Pwyntiau'?) Rheoli Critigol' yn ateb posibl?