----- Original Message -----
Sent: Saturday, March 15, 2003 10:48
PM
Subject: Re: llawdriniaethau
dylwn fod wedi bod fwy manwl Gwen -
nid oeddwn yn gwrthwynebu diathermedd - ond y tri arall sy'n otomis pendant,
ac unrhyw otomy arall! Mae'r otomi yn dweud wrthyt beth yw'r weithdrefn dan
sylw (toriad) ; fel mae ostomi (creu agoriad artiffisial) ac (os)copi (edrych ar/tu mewn i rywbeth) yn dweud
wrthyt beth sydd yn digwydd.
Nid yw'r ffordd mae termau meddygol
wedi cael eu creu yn gyson ond maent bron i gyd yn ddisgrifiadol iawn ac
mae cystal cadw at yr ol-ddodiad cyfarwydd - cadw at y confensiynau - hyd yn
oed i leygwyr!
Mae testun traethawd hir yma i ryw
ysgolhaig dwi'n siwr.
magi
----- Original Message -----
Sent: Friday, March 14, 2003
11:34
Subject: llawdriniaethau
Pallidotomy. thalamotomy.
subthalamotomy
'diathermedd' sy'n y
geiriadur am y driniaeth 'diathermy'
Beth yw'r farn
am ' swbthalamotomedd' etc....neu 'swbthalamotomi'
Mewn taflen sy'n
egluro triniaethau i gleifion, nid ar gyfer arbenigwyr. (Meddwl
roeddwn efallai byddai'r ffurf 'i' yn fwy adnabyddus iddyn nhw.)